YDYCH chi’n artist? A oes gennych weithiau celf yr hoffech i eraill eu gweld? Fe allai cynlluniau newydd sydd ar droed yn nhref Castellnewydd Emlyn, sy’n ceisio denu artistiaid i ddangos eu gwaith mewn gwyl newydd sbon, fod yr union beth ar eich cyfer.

Bydd yr Wyl, sydd yn cael ei threfnu gan artist lleol - Rhian Davies o Siop Gelf y Wiber, yn arddangos gweithiau celf amrywiol a hynny yn ystod wythnos gyntaf mis Awst, o Awst 1-7.

Mae Gwyl Celf a Chrefft Castellnewydd Emlyn wedi ei threfnu heb nawdd ac yn gobeithio ennyn prysurdeb yn ôl i’r dref unwaith yn rhagor, fel mae’r trefnydd yn esbonio.

"Mae mis Awst yn gallu bod yn gyfnod tawel yn y dref gan fod nifer o bobl yn dueddol o fynd ar eu gwyliau," meddai Rhian.

"Bwriad yr Wyl felly yw codi proffil artistiaid lleol ac agos drwy gael siopau lleol i arddangos pob math o gelf a chrefft yn eu ffenestri am gyfnod o wythnos. Bydd yr Wyl yn dilyn ymlaen yn naturiol at Daith Gelf Ceredigion a fydd yn digwydd yn hwyrach y mis hwnnw, a gan fod Yr Wyl Fwyd wedi bod ym mis Mehefin mae’n braf cael digwyddiad arall," dywedodd Rhian sydd wedi bod â siop yn y dref ers pymtheg mlynedd.

Ychwanegodd: "Mae’n gallu bod yn ddrud i artistiaid i arddangos eu gweithiau mewn bwytai a gwestai ac ati, a nifer o berchnogion llefydd arddangos yn cael comisiwn am harddangos lluniau artistiaid.

"Gyda’r Wyl yma, bydd artistiaid yn gallu dangos eu gwaith mewn llefydd blaenllaw ar y stryd fawr a pherchnogion siopau gobeithio yn gweld llif o bobl yn dod i’r dref ac yn gweld eu cynnyrch ar yr un adeg â gweld y celf a chrefft."

Astudiodd Rhian radd mewn Cynllunio Gwydr ym Mhrifysgol Wolverhampton cyn mynd ymlaen i astudio cwrs MA mewn Darlunio Ffurfiau Naturiol ym Mhrifysgol Brenhinol Llundain. Mae celf a chrefft yn agos iawn at ei chalon felly, a’i bwriad yw arddangos ffurfiau naturiol o gelf yn ei ffenest siop hithau.

"Wrth i ni farchnata gweithiau amrywiol artistiaid yn y siopau rydym yn codi diddordeb trigolion lleol ac ymwelwyr i’r gwahanol ffurfiau celf sydd ar gael – darluniau 2D i 3D fel crochenwaith," esboniodd Rhian a fydd yn creu darluniau yn ymwneud â byd natur.

Os ydych chi yn artist ac am ragor o wybodaeth, cysylltwch gyda Rhian ar 01239 712946 neu ymwelwch â thudalen Facebook Siop Gelf y Wiber.